Prynu tŷ fydd un o’r ymrwymiadau ariannol mwyaf ym mywydau’r rhan fwyaf o bobl.
Rydym yma i roi cyngor arbenigol i chi a chynnig gwasanaeth personol a chynhwysfawr i ateb eich anghenion i gyd wrth i chi werthu a phrynu eiddo. Gall ein cynghorwyr arbenigol eich tywys drwy’r broses gymhleth o brynu a gwerthu eiddo drwy gynnig cyngor manwl, gam wrth gam i chi, i sicrhau bod y broses yn esmwyth.
Rydym yn ymfalchïo yn y ffaith ein bod yn gwneud gwaith trawsgludo’n gyflym ac yn effeithlon. Byddwn yno bob amser, drwy gydol y broses, i’ch tywys ac i gynnig cyngor i chi ac rydym yn cynnig ffïoedd sefydlog ar y dechrau er mwyn i chi allu cynllunio ymlaen llaw.
Rydym hefyd yn ymdrin â throsglwyddo ecwiti, lesau a chofrestru eiddo yn y Gofrestrfa Tir.