Does dim rhaid i chi fod ar fin colli eich galluedd i drefnu i baratoi Atwrneiaeth Arhosol. Mae llawer o bobl yn eu paratoi nhw i’w diogelu rhag ofn y daw amser pan fyddent yn methu ymdrin â’u materion ariannol a lles ar eu pennau eu hunain.
Gallwn eich cynghori a’ch tywys drwy’r broses o greu Materion Ariannol ac Eiddo neu Atwrneiaeth Iechyd a Lles (neu’r ddau) ac yna gofrestru’r Atwrneiaethau hynny yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.
Gallwn hefyd gynnig cyngor a gwasanaethau mewn perthynas â chael Dirprwyaeth os yw unigolyn wedi colli galluedd ac rydym ar gael ar gyfer ymddangos yn y Llys Gwarchod.